Rydym yn y broses o recriwtio bobl ifanc (17-25 mlwydd oed) o Wynedd a Ynys Môn ar gyfer ein prosiectau Byw a Bod dros yr haf eleni.

Gweler isod y swyddi ar gyfer y ddau brosiect Byw a Bod eleni.

1.       Swyddi Byw a Bod Digidol

Byw a Bod Digidol

Bydd Arloesi yn recriwtio a chyflogi 10 o bobl ifanc o Wynedd a Môn (a all fod yn astudio yn rhywle arall) ac yn trefnu lleoliadau gwaith gyda busnesau TGCh yng Ngwynedd a Môn am 10 wythnos dros yr haf. Bydd angen iddyn nhw gael sgiliau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Mathemateg). 

•Manylion y swyddi Byw a Bod Digidol ac y ffurflen gais i’w gael ar ein gwefan yma http://www.arloesigwyneddwledig.com/gweithgareddau/prosiectau/thema-6-cydweithredol/byw-a-bod-digidol/  

  1. 2.       Swyddi Byw a Bod Perfformio

    Byw a Bod Perfformio

Bydd Arloesi yn recriwtio a chyflogi 10 o bobl ifanc creadigol  (17-25 mlwydd oed) o Wynedd neu Môn (gallent fod yn astudio yn rhywle arall) sydd gyda sgiliau perfformio, marchnata, rheoli neu ffilmio am 10 wythnos dros yr haf eleni.

Mae 4 swydd o fewn y prosiect sef y canlynol:

1.            Dyfeisio a pherfformio (7 person ifanc)

2.            Marchnata a Hyrwyddo’r  (1 person ifanc)

3.            Rheoli prosiect a gweinyddu. (1 person ifanc)

4.            Technolegol/Ffilmio (1 person ifanc)

•Manylion am y swyddi Byw a Bod Perfformio a’r ffurflenni cais priodol i gael ar ein gwefan yma http://www.arloesigwyneddwledig.com/gweithgareddau/prosiectau/thema-6-cydweithredol/byw-a-bod-perfformio/

Croeso i chi gysylltu os oes unrhyw gwestiwn.

Mae’r dyddiad cau ar y 28ain o Ebrill, 2017.

off canvas exit