Consortiwm Addysg Ol-16 ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn
Prif nod y prosiect hwn yw trawsffurfio strategol i sefydlu Gwynedd ac Ynys Môn fel ardal o ragoriaeth mewn dysgu ôl-16, sydd wedi’i seilio’n gadarn ar gynllunio a chyflwyno gwasanaethau ar y cyd sy’n gost effeithiol ac yn effeithlon ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16.
Cyflawnir hyn drwy ddod ag 16 o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus ar draws y ddwy sir ynghyd, yn cynnwys yr holl sefydliadau dysgu sector cyhoeddus, er mwyn gweithio’n fwy effeithiol na’r hyn y gallant ei wneud yn unigol. Bydd y prosiect PDGYM yn sefydlu ac yn gweithredu dull cyson a strwythurol ar y cyd – fframwaith Consortiwm – fydd yn sicrhau bod addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cael ei gynllunio a’i gyflwyno yn strategol ac yn (gost) effeithiol ar draws y ddwy sir er budd dysgwyr ôl-16.
Bydd yn caniatáu i’r isranbarth gyfuno profiadau dysgu o’r radd flaenaf gyda’r potensial i ymestyn yr amrediad o bynciau ôl-16 sydd ar gael, a’u cydweddu â chyfleoedd economaidd y dyfodol yn yr isranbarth, yn cynnwys y sectorau gwerth uchel sydd ar gynnydd sef y sectorau ynni, yr amgylchedd, gwyddoniaeth, meddygol a digidol, ynghyd â’r diwydiannau creadigol, a thrwy hynny sicrhau bod dysgu yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn darparu cyfle i gael mynediad at y farchnad lafur lleol ac yn cyfrannu at dwf a chynaladwyedd economi’r isranbarth i’r dyfodol.
Bydd y prosiect yn sefydlu system drydyddol yn hytrach na sefydliad trydyddol.
Mae hwn yn ddull arloesol, sy’n bur wahanol i’r dulliau arferol sy’n seiliedig ar sefydliad sydd wedi’u mabwysiadu mewn mannau eraill, a bydd yn cynnig model y gellir ei addasu mewn ardaloedd eraill sy’n chwilio am ddull cynlluniedig wrth gynllunio a chyflwyno dysgu ôl-16 yn effeithlon ac yn effeithiol – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae dyluniad y prosiect wedi ystyried y themâu a’r gwersi sydd wedi codi o brosiectau partneriaethau dysgu eraill.