Cynhadledd Mehefin 2015

Cynhaliwyd gynhadledd undydd cyntaf y Consortiwm yn Y Galeri, Caernarfon, ddydd Mawrth 30 Mehefin 2015 a chafwyd presenoldeb gwych gyda chynrychiolaeth o’n holl sefydliadau partner.

Cynhadledd

Cafwyd gyflwyniadau difyr ac addysgiadol gan sefydliadau sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, yn arbennig felly ym maes dysgu digidol. Roedd cyfraniad gwych Sgiliaith a enillodd wobr Beacon am eu gwaith arloesol yn y maes hwn ym 2013 a Tute sydd hefyd yn gwmni dwyieithog sy’n gyrru agenda e-ddysgu ymlaen mewn dull cynhyrfus. Cafwyd hefyd gyflwyniad rhagorol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y Gymraeg mewn addysg a’r cyfleon gwych sydd ar gael i bobl ifanc sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Uchafbwynt y bore oedd cyflwyniad deinamig ac adfywiol Julian Appleyard, Pennaeth Coleg Chweched Dosbarth Rochdale ar sut y bu iddo osod systemau monitro yn eu lle gyda chanlyniadau gloyw i’r dysgwyr yn ei sefydliad. Rhannodd ei brofiadau gyda’r gynulleidfa ar sut mae gosod mesurau monitro a thracio tynn yn cyfrannu tuag at lwyddiant diamheuol a chanlyniadau clodwiw i Goleg Chweched Dosbarth Rochdale.

off canvas exit