Ar y 30ain o Fai eleni lansiwyd Consortiwm Addysg Ȏl-16 Gwynedd ac Ynys Môn yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd yn y Bala. Yn ystod ei araith dywedodd y Prif Weinidog, "Rwy'n falch o weld bod cyllid yr UE yn cynorthwyo i ffurfio ysbryd o weithio mewn partneriaeth i sicrhau rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant i bobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn fel y gallent wella eu rhagolygon gyrfaol a sicrhau llwyddiant yn y gweithle."
Hefyd yn bresennol oedd y Cyng. Siân Gwenllian, Cadeirydd Bwrdd ARweiniol y Consortiwm ar y pryd, ac roedd yn falch o weld bod y blynyddoedd diwethaf o gynllunio wedi dwyn ffrwyth; meddai, "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn medru cynnig y cyfleon gorau posibl i bobl ifanc yr ardal. Mae'r cytundeb arloesol hwn yn uchafbwynt llawer o waith caled a phartneriaethau rhwng ysgolion, colegau a chynghorau Gwynedd ac Ynys Môn".